Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Sut yr ydym ni yn gwneud penderfyniadau

Mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am wneud nifer o benderfyniadau drwy’r flwyddyn.  Gall hyn gynnwys materion megis y gyllideb a’r praesept, penodiadau a blaenoriaethau.

Sut y caiff penderfyniadau eu gwneud?

Dogfen yw’r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol sy’n nodi sut y bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r Prif Gwnstabl yn cydweithio ac yn darparu gwasanaeth plismona yn Ne Cymru.

Mae’r Llawlyfr yn cynnwys:

Y Cod Llywodraethu Corfforaethol

Y Cynllun Dirprwyo

Rheoliadau Ariannol

Rheolau Sefydlog Mewn Perthynas â Chontractau

Fframwaith Atebolrwydd a Gwneud Penderfyniadau

Penderfyniadau a Wnaed

Gwneir penderfyniadau yng nghyfarfodydd misol y Bwrdd Strategol. Pan wna’r Comisiynydd unrhyw benderfyniad sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd, caiff ei gyhoeddi ar-lein.

Craffu ar y penderfyniadau a wneir gan y Comisiynydd

Panel yr Heddlu a Throseddu sy’n gyfrifol am oruchwylio gwaith y Comisiynydd a chraffu ar ei benderfyniadau.

MENU