Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi’r hawl i chi ofyn am yr holl wybodaeth sydd gennym ar gofnod ar unrhyw bwnc. 

Efallai na fydd gwybodaeth sensitif ar gael i aelodau’r cyhoedd. Os felly, byddwn yn dweud wrthych pam yr ydym wedi atal ychydig o’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani, neu’r holl wybodaeth.

Mae’n holl ymatebion yn cael eu cyhoeddi yn y Cofnod Datgeliad.

Rydym am fod mor agored a thryloyw â phosibl, felly rydym yn cyhoeddi gwybodaeth yn gyson ar y wefan hon o dan y Cynllun Cyhoeddi.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdani ar y wefan, gallwch gyflwyno cais i ni. Rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig, naill ai trwy’r post, ar e-bost neu ar-lein. Mae gennym 20 diwrnod gwaith i ymateb i geisiadau.

Y Comisiynydd Gwybodaeth sy’n darparu manylion llawn am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

MENU